Croeso

    Fe sefydlwyd Ysgol Trimsaran yn 1875 o dan arweinyddiaeth y prifathro Mr Thomas Sylfan Jones. 

    Fe’i sefydlwyd ar safle buarth yr adran Iau bresennol ger mynedfa Heol Waun y Clun.  Sefydlwyd Ysgol Fabanod ar wahân yn 1895 o dan brifathrawiaeth Mrs M. Jones. 

    Ond, oherwydd cynnydd yn nifer y plant a dirymiad yr adeilad fe adeiladwyd Ysgol Fabanod newydd sbon (o aluminium sbâr y rhyfel) ac fe’i hagorwyd yn 1955.  Erbyn 1962 roedd rhif y plant wedi cynyddu oherwydd mewn-lifiad o weithwyr o Loegr ac fe ddechreuwyd ffrwd “Saesneg” i gyd-rhedeg gyda’r un Gymreig.  Mae’r drefn yma wedi parhau hyd heddiw. 

    Agorwyd adeilad ‘Iau’ newydd yn 1968 ac fe ddymchwelwyd yr hen ysgol i wneud lle i ‘fuarth’ newydd yr Ysgol Iau.  Yn 1975 fe adeiladwyd adran Feithrin bwrpasol yn yr Ysgol Fabanod.  Galluogodd hyn i’r ysgol dderbyn plant tair blwydd oed. 

    Yn 1989 fe ymunodd y ddwy ysgol o dan brifathrawiaeth Mr Wynn Jenkins.  Apwyntiwyd y prifathro presennol, Mr Edward Horan yn 1991.

    Welcome

    Ysgol Trimsaran was founded in 1875 under the headship of Mr Thomas Sylfan Jones and was situated where the Junior yard is now on the Heol Waunyclun entrance. A separate Infant school was established in the same building in 1895 under the headship of  Mrs M. Jones.

     In 1955 due to massive overcrowding and a deterioration in the building a brand, shining new Infants school (made of war surplus aluminium) was opened. By 1962 as a result of a large influx into the village from the North East of England the school started an English stream class to run in parallel with the Welsh stream, a system which has continued to the present day.

    A new Junior building was opened in 1968 and the old school was demolished to make way for the new Junior yard. In 1975 a purpose built Nursery was set up in the Infants which allowed the school to admit children from their third birthday. The Infant and Junior schools were amalgamated in 1989 to form Trimsaran Primary under the headship of Mr Wynn Jenkins. The current head Mr Edward Horan was appointed in 1991.